Annwyl Jocelyn a gweddill aelodau’r Pwyllgor
Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth,
Rwyf newydd ddychwelyd o gyfarfodydd drwy’r dydd rhwng y
diwydiant cyhoeddi Cymraeg a Saesneg a’r Cyngor Llyfrau yn
trafod sut y bydd y diwydiant yn cael ei effeithio gan y toriad
llym o dros 10% sy’n ein hwynebu yn y flwyddyn ariannol
nesaf.
Hoffwn gyflwyno tri phwynt i’ch sylw.
- Yng nghynlluniad arfaethedig Llywodraeth y Cynulliad,
mae’r toriad i’r diwydiant cyhoeddi yn llawer uwch nac
mewn cyrff sy’n rhan o Lywodraeth y Cynulliad a diwydiannau
eraill sy’n cael arian buddsoddi drwy Busnes
Cymru.
- Rhaid nodi eto mai diwydiant ydyw a buddsoddiad (tebyg
i’r hyn mae Busnes Cymru yn ei roi i ddiwydiannau eraill)
yw’r arian a gawn gan Lywodraeth y Cynulliad drwy’r
Cyngor Llyfrau. Fel pob diwydiant arall, rydym yn ychwanegu ein
buddsoddiad ein hunain at yr arian cyhoeddus. Bydd llai o
fuddsoddiad o’r Cynulliad yn golygu llai o fodd i fuddsoddi
gan y gweisg – a bydd yr effaith yn llawer mwy na’r
canran yr ydych yn edrych arno ar hyn o bryd. Mewn gwasgfa
economaidd, mae rhoi ergyd i ddiwydiant yn mynd i arwain at gynyddu
cyni’r saith mlynedd diwethaf. Mae oddeutu 1,000 yn gweithio
yn y diwydiant yng Nghymru (a hynny ym mhob cwr o’r wlad) ac
mae’n cyfrannu’n economaidd at ddiwydiannau eraill
megis twristiaeth a gwasanaethau megis byd addysg. Er mai bychan
iawn yw cyfanswm grantiau’r Cyngor Llyfrau, mae dosbarthiad
eang yr arian yn cynnal llawer o weithwyr hunangyflogedig ym myd
dylunio, darlunio, ffotograffiaeth, golygu ac awduro yn
ogystal â swyddi argraffwyr, cyhoeddwyr, dosbarthwyr,
gwerthwyr a siopwyr. Mae awduron yn arbennig yn mynd i ddioddef gan
fod llawer yn cynnal eu swyddi drwy weithio ym maes llyfrau a
theledu – ac mae S4C eisoes wedi gweld toriadau trymion ers
blynyddoedd. Mae toriadau y blynyddoedd diwethaf i’r Cyngor
Llyfrau wedi cael eu llyncu gan y diwydiant – does dim
cynnydd yn ôl graddfa chwyddiant wedi bod i’r grantiau
ers 6 mlynedd, does dim cymorth ariannol bellach ar gyfer e-lyfrau,
hyrwyddo rhaglen gyhoeddi cyson drwy’r flwyddyn, hyrwyddo
gwerthiant uchel na’r rhan fwyaf o gostau lansio llyfrau. Eto
mae’r diwydiant wedi llwyddo i gyhoeddi yr un nifer o lyfrau
Cymraeg a Saesneg noddedig ag a wnaed cyn y toriadau a hynny ar
grantiau llai – ac wedi gwneud hynny drwy beidio â
buddsoddi mewn peiriannau a thechnoleg. Bydd y toriadau pellach yn
sicr o arwain at docio sylweddol yn nifer y llyfrau – tocio
fydd yn dwyn i ystyriaeth y toriadau blaenorol yn ogystal. Bydd
cwtogi nifer y llyfrau dan nawdd yn gwneud y gweisg yn llai abl i
fuddsoddi mewn llyfrau masnachol a bydd y diwydiant cyfan yn
crebachu a bydd swyddi’n cael eu colli. Yn ein gwasg ni rydym
yn cyflogi 20 yng ngogledd a chanolbarth Cymru. Rydym yn rhagweld y
bydd 2 swydd yn cael eu colli o fis Ebrill ymlaen. Byddwn yn
tocio’n sylweddol ar waith argraffu allanol i weisg eraill
yng Nghymru ac ar waith a roddwn i weithwyr hunangyflogedig yn y
diwydiant. Bydd prisiau llyfrau yn codi i ateb y costau ychwanegol
(a bydd hyn yn cael effaith negyddol ar gyllid addysg yng
Nghymru).
- Mae’n ddiwydiant sy’n cyfrannu’n
uniongyrchol at y diwylliant Cymraeg a Chymreig, yn hybu
llythrennedd ac yn cyfrannu’n helaeth at fywiogrwydd ac
ynni’r byd creadigol yng Nghymru. Mae gwledydd eraill yn
buddsoddi yn eu diwydiannau creadigol – mae’n creu
brand unigryw ac yn hyrwyddo twristiaeth ddiwylliannol. Mae’r
diwydiant cyhoeddi hefyd yn darparu cyfrolau o lenyddiaeth ragorol
yn nwy iaith Cymru. Bydd y toriadau yn ergyd i’r to ifanc o
ddarllenwyr Cymraeg yn arbennig. Ar hyn o bryd mae siaradwyr
Cymraeg yn prynu dwywaith cymaint o lyfrau ag a wneir gan siaradwyr
Saesneg ym Mhrydain. Byddwn yn sicr o beryglu’r gwaith da
sydd wedi’i wneud dros yr hanner canrif diwethaf i ddod
â llyfrau a darllen yn rhan o fwynhad torfol yn ein
gwlad.
Edrychaf ymlaen at glywed eich ymateb a pha weledigaeth sydd
gennych ar gyfer dyfodol y diwydiant hwn yng Nghymru.
Yn gywir,
Myrddin ap Dafydd
Cyfarwyddwr
Gwasg Carreg Gwalch